Amdani

Ynghylch Pharmabees

Gellir olrhain prosiect arobryn Pharmabees y Brifysgol yn ôl i Dr Jenny Hawkins, cynfyfyriwr o’r Ysgol Fferylliaeth a gwblhaodd PhD yn 2015 o’r enw ‘Gwenyn Apothecari, defnyddio’r wenynen fel offeryn i ddarganfod cyffuriau’ (Darllenwch Mwy). Darganfu Jenny ‘fêl rhagorol’ o Dywyn yng ngogledd Cymru a allai ladd arch-fygiau ysbyty, a phenderfynodd fod hyn o ganlyniad, yn rhannol, i blanhigion penodol yr oedd y gwenyn yn ymweld â nhw wrth chwilota. Er mwyn ail-greu y mêl rhagorol hwn, fe wnaethom osod cychod gwenyn ar do Adeilad Redwood ac amgylchynu’r adeilad â phlanhigion Tywyn er mwyn darparu bwyd gwrth-germau i’r gwenyn (Darllen mwy).Fel gwenyn yn heidio, mae’r syniad hwn wedi lledaenu ar draws y campws gan arwain at osod

Adnoddau

cychod gwenyn ar bedwar o adeiladau’r Brifysgol hyd yma. Er mwyn cefnogi’r holl wenyn ychwanegol hyn, rydym wedi tyfu dros 1,000m2 o blanhigion sy’n addas i bryfed peillio ac sy’n dal ac yn storio carbon. Mae Prosiect Pharmabees yn rhan o Strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol y Brifysgol (Darllenwch Mwy). Er mwyn egluro pwysigrwydd y gwaith hwn i’n cymuned, rydym wedi creu gwefan sy’n dangos sut mae ymchwil y Brifysgol yn dylanwadu ar y byd go iawn (Darellenwch Mwy). I gydnabod cyfraniad yr ymdrechion hyn, dyfarnwyd statws croesawgar i wenyn i’r Brifysgol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac yn 2017, enillodd y Brifysgol nifer o wobrau cenedlaethol a oedd yn cynnwys gwobrau cynaliadwyedd gan y Guardian a Chynnal Cymru.

TIM