Pharmabees

Sut rydym yn creu dinas sy'n groesawgar i wenyn, cefnogi addysg plant o bob oed a chyfrannu at y frwydr yn erbyn archfygiau sy’n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau.

Adnoddau

Creu Dinas Groesawgar i Wenyn

Mae nifer o gychod gwenyn wedi'u gosod o gwmpas Prifysgol Caerdydd. Mae planhigion penodol a nodwyd drwy ein gwaith ymchwil yn cael eu tyfu ar draws diroedd y campws i annog peillwyr, i helpu i gynhyrchu mêl gwych a chynorthwyo ymchwil yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol i arch-fygiau. Gallai ymchwil arloesol sy’n edrych ar sut y gallai peillio rhai planhigion penodol arwain at ddatblygu cyffuriau i drin cyflyrau meddygol difrifol sy’n cael eu hachosi gan facteria sydd ag ymwrthedd i wrthfiotigau traddodiadol - a elwir yn 'arch-fygiau'.

Adnoddau

Haid o wybodaeth

Fel gwenyn yn heidio, mae’r syniad hwn wedi lledaenu ar draws y campws gan arwain at osod cychod gwenyn ar nifer o adeiladau’r Brifysgol. Er mwyn cefnogi’r holl wenyn newydd hyn, rydym wedi tyfu dros 1,000m2 o blanhigion sy’n addas i bryfed peillio ac sy’n dal ac yn storio carbon. Er mwyn egluro pwysigrwydd y gwaith hwn i’n cymuned, rydym wedi creu gwefan sy’n dangos sut mae ymchwil y Brifysgol yn dylanwadu ar y byd go iawn. Rydym yn aelod prysur o’r gymuned ac wedi gweithio gyda sefydliadau yn ne Cymru i gyfoethogi bioamrywiaeth mannau gwyrdd y tu hwnt i ffiniau’r Brifysgol ac i gynyddu nifer y peillwyr ar draws yr ardal

Adnoddau

Dilynwch ni

Peillio Meddyliau Ifanc

Mae diddordeb pobl mewn gwenyn mêl wedi ein galluogi i fanteisio ar hyn er mwyn mynnu sylw myfyrwyr hen ac ifanc. Er mwyn parhau â’r rhyfeddod a chreu su ymysg y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr o Gymru, rydym wedi datblygu, adnoddau cyfoethogi STEM CA2 gydag athrawon ysgolion cynradd a phlant. Gallwch lawrlwytho’r adnoddau o’r wefan hon.

Adnoddau